Deddf Cydraddoldeb 2010
Taflen Ffeithiau
Busnesau yn cael help llaw ‘rhithwir’ gyda’r Ddeddf Cydraddoldeb gan Prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg
Bydd cyflogwyr yn gallu cysgu’n dawel ar ddechrau’r flwyddyn newydd o wybod eu bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, diolch i gyfres o ganllawiau am ddim o’r we sy’n trafod elfennau allweddol y ddeddf
Bydd y canllawiau ar-lein hyn ar gael o fis Ionawr ymlaen. Byddant yn ddefnyddiol i fusnesau sydd am wella’u dealltwriaeth o’r rheoliadau, a chael gwybod sut y gallant fod o fudd i’r busnes a’i weithwyr cyflogedig.
Lawrlwytho taflenni ffeithiauCliciwch yma i ymweld â'r adran Adnoddau i lawrlwytho'r taflenni ffeithiau ar gael ar hyn o bryd |
||
Mae’r ffeithlenni hyn yn trafod pynciau amrywiol sy’n ymwneud â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys y naw nodwedd warchodedig a gwmpasir gan y ddeddfwriaeth
Mae modd lawrlwytho’r canllawiau am ddim, sydd hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol i fusnesau wneud y gorau o’r ddeddf, a sut gallant annog gweithle teg a chyfartal i bawb.
Meddai Hayley Dunne, rheolwr prosiect Cenedl Hyblyg:
“Diolch i’n cysylltiadau â busnesau bach a chanolig yng Nghymru, rydym yn deall yr her sy’n wynebu llawer o gyflogwyr wrth roi’r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith, yn enwedig busnesau bach.
Tra bod pawb yn ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith, gall mwy o fusnesau fabwysiadu’r Ddeddf i’r eithaf er mwyn cael cyfle i fod yn gyflogwyr arfer gorau. Bydd hyn yn ei dro yn cynnig manteision gwirioneddol iddynt, o wella’u delwedd i gynyddu teyrngarwch staff.
Mae astudiaethau’n dangos bod cyflogwyr cyfle cyfartal yn ennill y blaen o ran denu a chadw’r gweithwyr mwyaf dawnus; ac mae hyn yn hollbwysig i broffidioldeb unrhyw fusnes wrth gwrs.
“Rydym yn deall nad oes gan fusnesau bach a chanolig yr un faint o adnoddau â chwmnïau mawr i’w neilltuo i ddatblygu strategaethau amrywiaeth effeithiol.
Fodd bynnag, gallan nhw hefyd elwa ar gyngor arbenigol gyda chymorth Cenedl Hyblyg, ac mae’r ffeithlenni hyn yn fan cychwyn perffaith i gael y wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod polisïau amrywiaeth yn addas i’w busnesau, eu gweithwyr a’u cwsmeriaid nhw.
Mae’r Flwyddyn Newydd yn gyfle i adolygu polisiau a gweld sut y gall Deddf Cydraddoldeb 2010 wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gweithle a’ch elw yn y pen draw.”
![]()
Mae rhaglen Esblygu, sy’n rhan o brosiect Cenedl Hyblyg gwerth £12.5m a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau yn ardaloedd cydgyfeirio Cymru. Mae’n cynnwys cynghori busnesau ar yr effaith gadarnhaol y gall strategaeth amrywiaeth effeithiol ei chael yn y gweithle

