
Seremoni Wobrwyo De Ddwyrain Cymru
Dathlu llwyddiannau ein cyfranogwyr
Ym mis Medi, mynychodd menywod ar ein Rhaglen Esgyniad - a lwyddodd i gwblhau a phasio Gwobr Arweinydd Tîm Lefel 2 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth - seremoni wobrwyo i ddathlu eu llwyddiant yng Nghanolfan QED yn Nhrefforest
Cyfranogwyr Esgyniad De Ddwyrain Cymru yn dathlu
Ymunodd Rheolydd Busnes y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yng Nghymru, Pam Heneberry, â’r tîm prosiect yn Ne Ddwyrain Cymru i gyflwyno tystysgrifau a rhoi cyflwyniad ar bwysigrwydd hyfforddiant rheolaeth
Wrth esbonio sut fod cymwysterau'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth wedi eu cynllunio i ffocysu ar ddatblygu perfformiad yn y gweithle, Roedd Pam yn cydnabod, ar ôl siarad gyda’r menywod a gyfranogodd, fod buddion y wobr eisoes yn cael eu gweld.
Rhoddodd y seremoni gyfle gwych i’r menywod ar y rhaglen i ddod ynghyd gyda’u cyd-ddysgwyr a dathlu eu llwyddiannau. Ymunodd staff y prosiect yn y dathliadau ac roeddynt wrth law i drafod cyfleoedd datblygu pellach a oedd ar gael trwy’r Prosiect Cenedl Hyblyg. Dywedodd Rheolydd Rhanbarthol y Prosiect, Natalie Griffiths, a oedd yn llywyddu’r digwyddiad “Mae’n wych i fod yma heddiw i ddathlu llwyddiannau’r menywod ac i weld sut fod y Prosiect wedi gallu eu helpu i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu ar eu hyder a’u cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
"Mae tîm y Prosiect nawr yn edrych ymlaen at barhau a’u gwaith gyda’r menywod trwy ystod o gefnogaeth ychwanegol y mae’r Prosiect yn gallu ei gynnig gan gynnwys mentora parhaus a chyfleoedd datblygu ac digwyddiadau aelodau testunol i enwi ond ychydig”.
Cyhoeddwyd ar: 24/09/2010![]()
Seremoni Wobrwyo Gogledd Cymru
Dathlu llwyddiannau ein cyfranogwyr
Ar 19 Hydref 2010, daeth menywod o’n Rhaglen Esgyniad - a lwyddodd i gwblhau a phasio Gwobr y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 2 mewn Arwain Tîm - seremoni raddio i ddathlu eu llwyddiant yng Ngwesty’r Quay, Cei Deganwy, Deganwy
Llywydd y digwyddiad oedd Debbie Bowe, gyda’r miliwnydd enwog y gwestywr Stephanie Booth fel siaradydd gwadd a gyflwynodd dystysgrifau'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn ogystal â gwneud cyflwyniad ar y pwysigrwydd o gael golau personol a gweithio tîm effeithiol
Rhoddodd y seremoni gyfle gwych i fenywod ar y rhaglen i ddal fyny gyda’u cyd ddysgwyr a dathlu eu llwyddiannau. Gwahoddwyd pob un i ymuno yn y sesiwn blasu dawnsio bol ac arddangosfeydd The Body Shop ac Enjo.
Mynychodd dros 80 o fenywod y digwyddiad o ardaloedd cydgyfeirio Gogledd Cymru
![]()
Seremoni Wobrwyo De Orllewin Cymru
Dathlu llwyddiannau ein cyfranogwyr
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar gyfer menywod a oedd yn llwyddiannus wrth gyflawni Lefel 2 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar y rhaglen Esgyniad yn Ne Orllewin Cymru
Cynhaliwyd y digwyddiad ar 28 Gorffennaf yng Ngwesty Plas Hyfryd, Arberth; cyflwynwyd tystysgrifau gan Lois Poynting a chafwyd bwffe i ddilyn. Roedd yn ddigwyddiad anffurfiol ac ymlaciedig, a roddodd y cyfle i’r bobl a fynychodd drafod eu profiadau ar y rhaglen Esgyniad a’r cyfle i ddal lan gyda’u cyd ddysgwyr
![]()
Cyhoeddwyd ar: 12/11/2010


