Rhwydweithio Aelodau Esgyniad
Dod yn Arweinydd Tîm Ysbrydoledig: Defnyddio Deallusrwydd Emosiynol i ysgogi a rheoli eich tîm
Arbenigwr Arweinyddiaeth yn annog busnesau Cymreig i flaenoriaethu lles eu staff er mwyn gwrthbwyso yn sgìl y dirwasgiad
Mae arbenigwr rheolaeth blaenllaw yn rhybuddio busnesau yng Nghymru gall dull rhagweithiol ar gyfer lles gweithwyr olygu’r gwahaniaeth rhwng gweithlu cynhyrchiol ac ymroddedig ag un sy’n cael ei blagio gan drosiant staff uchel a morâl isel.
Mae David Pardey, sy’n uwch reolwr ar gyfer ymchwil a pholisi yn y Sefydliad Arweinyddiaeth & Rheolaeth yn annog rheolwyr i roi mwy o bwyslais ar weithle iach, sy’n hanfodol ar gyfer cynhyrchiant mewn amseroedd economaidd caled. Daw ei sylwadau yn sgîl ymchwil newydd gan Aviva, sy’n datgan fod 31% o fusnesau yn cyfaddef mai eu hunig bryder yw elw a chynhyrchiant.
Roedd David yn annerch grŵp o fenywod Cymraeg fel rhan o gyfres o seminarau sy’n cael eu cynnig i fenywod sy’n ymgymryd â hyfforddiant mewn rheolaeth a datblygiad gyrfaol o dan brosiect blaenllaw Chwarae Teg gwerth £12.5m sy’n cael ei gyllido gan Ewrop, Cenedl Hyblyg. Dywedodd:
“Mae’r economi Gymreig yn wynebu toriadau digynsail yn y sectorau cyhoeddus a phreifat sy’n golygu fod sefydliadau dan bwysau ychwanegol i oroesi a chynnal gweithlu cynhyrchiol ac ymroddedig. Mae’n hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, fod rheolwyr yn gallu cyfathrebu’n dda gyda’u tîm a threfnu pobl i weithio’n effeithiol . Mae rheolwyr sy’n methu a chyflawni hyn, yn gadael eu cwmni yn agored i golledion elw, yn cynyddu absenoldeb a throsiant staff uchel.
“Mae nifer o reolwyr ac arweinyddion tîm yn teimlo nad oes lle i emosiwn yn y gweithle ond mae anwybyddu ymatebion emosiynol i faterion megis diswyddiadau a chynnydd i lwyth gwaith staff yn gallu arwain at morâl isel a gostyngiad mewn cynhyrchiant. Mae gan reolwyr gyfrifoldeb i ysgogi eu staff a lleihau pryder yn hytrach na gofidio am berfformiad ariannol yn unig.”
Mae rhybudd David i reolwyr i wella’r defnydd o ddeallusrwydd emosiynol fel modd o annog perfformiad gwell gan weithwyr yn cyd-ddigwydd gydag ymchwil sy’n dangos fod 1 o bob 5 person yn credu bod eu rheolydd yn creu amgylchedd gwaith ingol.
Bydd y prosiect Cenedl Hyblyg yn gweithio gyda 2790 o fenywod ac wedi ei anelu at ddilyniant a chynnal a chadw menywod yn y gweithle.
Dywedodd cyfranogydd i brosiect Cenedl Hyblyg, Dorcas Cox o gwmni cyfreithwyr Gwyn George Partnership, sydd wedi ei leoli yn ne Cymru: “Mae neges David yn agoriad llygad ac yn tanlinellu’r pwysigrwydd o ddeallusrwydd emosiynol yn y gweithle, yn enwedig yn nhermau goroesi mewn hinsawdd economaidd heriol. Mae’n bwysig pan fod materion neu gyfyng-gyngor cyflogaeth yn codi fod rheolwyr yn sylwgar i hyn ac yn rhagweithiol wrth ddod o hyd i ateb.”
Yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth wedi ei deilwro i fenywod cyflogedig, mae’r prosiect Cenedl Hyblyg hefyd yn helpu cyflogwyr weithredu atebion gweithio hyblyg ar gyfer eu gweithwyr.
![]()
Ar gael ar safwe Wales Online (Saesneg yn unig)*




