Wythnos Addysg Oedolion 2010 - Datganiad i'r Wasg
Mae Chwarae Teg yn dathlu Diwrnod Dysgu yn y Gwaith ar ddydd Iau 20 Mai trwy gynnal diwrnod agored i helpu menywod ddatgloi eu potensial gyrfaol yn Y Pottery, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, fel rhan o’r prosiect Cenedl Hyblyg
Mae menywod sy’n byw a gweithio yn yr ardal yn cael eu hannog i alw draw am frecwast, cinio neu de prynhawn rhad ac am ddim a chael sgwrs gyda thîm y prosiect i ddarganfod sut y gallant hwy elwa o’r prosiect arloesol hwn
Bydd y diwrnod agored yn cynnwys sesiynau blasu rhad ac am ddim ar hyfforddiant arwain tîm sy’n cael ei gynnig gan Genedl Hyblyg i roi blas ar sut y gall y prosiect helpu menywod ddysgu sgiliau allweddol, archwilio eu cyfleoedd a datblygu eu hyder.
Bydd tîm y prosiect wrth law trwy gydol y dydd i drafod y cyfleoedd gall y prosiect gynnig i fenywod sydd eisiau cymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd a rhoi hwb i’w sgiliau.
Dywedodd Emma Richards, rheolydd prosiect rhanbarthol Cenedl Hyblyg ar gyfer De Ddwyrain Cymru:
“Rydym yn gwybod fod nifer fawr o fenywod yn y gweithlu gyda photensial sydd heb ei gyffwrdd. Mae Cenedl Hyblyg wedi ei gynllunio i alluogi menywod i adnabod eu galluoedd presennol, dysgu sgiliau arwain tîm newydd, addasu i’r byd gwaith sy’n newid a dysgu sut i ddatblygu eu hunan a’u gyrfaoedd.
Mae Diwrnod Dysgu yn y Gwaith yn gyfle gwych i gymryd 10 munud o’ch diwrnod prysur a galw draw am rywbeth i’w fwyta neu baned o de a dysgu rhagor am sut y gallwn ni helpu i newid eich bywyd gwaith er gwell. Mae yna lawer i’w gynnig yn y digwyddiad a buaswn hefyd yn annog perchnogion a rheolwyr busnes lleol i alw draw a dysgu rhagor am sut y gallwn ni helpu eu gweithwyr elwa o’r hyfforddiant”.
Mae Cenedl Hyblyg yn brosiect gwerth £12.5m sydd wedi ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gweithwyr benywaidd sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen sydd yn dymuno cyflawni eu potensial a chynyddu eu gyrfaoedd yn gymwys ar gyfer hyfforddiant arwain tim achrededig, datblygiad personol a sesiynau datblygu hyder, yn ogystal â mentora, cyngor ac arweiniad i gefnogi datblygu gyrfa wedi ei deilwro.

