Cyraeddiadau
Mae’r tîm Cenedl Hyblyg yn benderfynol o sicrhau bod y prosiect yn darparu cymorth o’r safon uchaf i bawb sy’n cymryd rhan
Trwy wneud hyn, mae’r prosiect a phawb sy’n cymryd rhan eisoes yn sicrhau llwyddiant arwyddocaol
Mae’r cyraeddiadau hyn, a amlinellir isod, yn cynnwys cyraeddiadau craidd fel nifer y menywod sy’n cymryd rhan yn y prosiect a chyraeddiadau ychwanegol sy’n helpu i ddangos manteision Cenedl Hyblyg.
Dilynwch ni ar LinkedIn.com
Cyraeddiadau Craidd:
Roedd 1,513 o fenywod yn cymryd rhan yn y Rhaglen Esgyniad ym mis Medi 2011
Roedd dros 650 o fenywod wedi derbyn Dyfarniad Arwain Tîm Lefel 2 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth erbyn mis Medi 2011
Roedd 205 o gyflogwyr yn cymryd rhan yn y Rhaglen Esblygu ym mis Medi 2011
Mae 34 o ddigwyddiadau Cenedl Hyblyg wedi’u trefnu ledled Cymru er mwyn darparu cymorth ac ysbrydoliaeth barhaus i’r menywod sy’n cymryd rhan yn y rhaglen
Mae 11 o Astudiaethau Achos wedi’u cyhoeddi yn y wasg i helpu i hyrwyddo manteision y prosiect ac i annog menywod eraill i ddatblygu a chamu ymlaen yn eu gyrfaoedd
Cyraeddiadau Ychwanegol:
Mai 2011
Cheyanne Staley, a fu’n cymryd rhan ym mhrosiect Cenedl Hyblyg, yn ennill Gwobr Dysgwr Gweithle y Flwyddyn yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion a gynhaliwyd gan NIACE Dysgu Cymru fel rhan o’i ymgyrch genedlaethol Wythnos Addysg Oedolion.
Cliciwch yma i ddarllen am lwyddiant Cheyanne
Tachwedd 2010
Michelle Willis, a fu’n cymryd rhan ym mhrosiect Cenedl Hyblyg, yn ennill Gwobr Menyw Fusnes y Flwyddyn Network She yng Nghonwy.
Cliciwch yma i ddarllen am lwyddiant Michelle
Hydref 2010
I godi ymwybyddiaeth o brosiect Cenedl Hyblyg, datblygwyd ymgyrch o’r enw Womenspire a oedd yn cynnwys lansio’r ‘App’ Cymraeg cyntaf ar gyfer yr iPhone / Smartphone. O ganlyniad i’r ymgyrch hon, enillodd y prosiect wobr Pride y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus am y Defnydd Gorau o Gysylltiadau Cyhoeddus Digidol. Yn ogystal, cafodd Cenedl Hyblyg werth £48,000 o sylw yn y wasg, cafodd gefnogaeth 446 o bobl ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol a gwyliwyd y fideo dros 500 o weithiau ar YouTube.
Tachwedd 2009
Rheolwr Datblygu Prosiect Cenedl Hyblyg Emma Richards yn ennill y Wobr Hyfforddiant Genedlaethol a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan gydnabod ei chyraeddiadau dysgu.
Mehefin 2009
Cydnabyddiaeth arbennig yng ngwobrau’r British Female Inventors & Innovators Awards

