Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Astudiaeth Achos Cynllun Taleb Gofal Plant

Mae gofal plant yn parhau i fod y prif rwystr i fenywod sy’n gobeithio cyflawni eu potensial yn y gwaith  ond hefyd yn dymuno cadw cydbwysedd bywyd a gwaith. 

Mae Chwarae Teg wedi helpu llawer o weithwyr gyda hyn trwy weithredu Cynllun Talebau Gofal Plant:

Maria Mallon Swyddog AD Chwarae Teg

"... Mae Chwarae Teg wedi bod trwy gyfnod o dyfiant yn ddiweddar, yn recriwtio mwy na dwsin o staff newydd.  Fe welsom yn gyflym fod gan nifer o’n staff newydd gyfrifoldebau gofal plant.  Fel cyflogwr sy’n gwerthfawrogi cydbwyso bywyd a gwaith ein gweithwyr penderfynom gyflwyno'r cynllun taleb gofal plant mewn partneriaeth a Thalebau Gofal Plant Busy Bees. 

Mae’r cynllun taleb gofal plant yn galluogi ein gweithwyr i wneud arbedion sylweddol yn ei yswiriant gwladol a’u cyfraniadau treth.  Mae Chwarae Teg hefyd yn gwneud arbedion ar yswiriant gwladol a chyfraniadau treth ein gweithwyr ac yn talu ffi rheolaeth fach i Busy Bees. Felly nid yw’r cynllun yn costio dim i’r cyflogwr. 

Darparwyd pod deunydd gan Dalebau Gofal Plant Busy Bees ac fe weithredwyd y cynllun yn llwyddiannus.  Penderfynom lansio polisi gofal plant mewnol i roi arweiniad i’n gweithwyr ar sut i weithredu’r cynllun.  Ar y cyfan, mae’n ychwanegu at becyn buddion cyflogaeth ein gweithwyr, yn cynnig arbedion i’n staff ar adeg pan fod trefniadau gofal plant yn medru bod yn gostus... " 

Katie Cole Prosiect Cenedl Hyblyg Uwch Swyddog - De Ddwyrain Cymru yw un o’r gweithwyr cyntaf i gymryd mantais o’r cynllun:

"... Roedd fy nghyn-gyflogwr, Awdurdod Lleol, yn rhedeg cynllun taleb gofal plant gyda Busy Bees.  Pan gefais gynnig y swydd hon, ymholais ynglŷn ag os oedd Chwarae Teg yn cynnig talebau gofal plant.  Yn ffodus, wedi i mi wneud fy ymholiadau, penderfynodd Chwarae Teg gynnig talebau gofal plant mewn cyfnewid am aberth cyflog.

Mae hyn yn golygu fod y rhanfwyaf o’n ngofal plant (2 ddiwrnod yr wythnos) yn cael ei dalu amdano yn syth o’n nghyflog, felly nid oes rhaid i mi boeni amdano. Mae pob dim yn digwydd yn electronig, ac mae fy narparydd gofal plant yn cael eu talu o fewn 4-5 diwrnod gwaith. Mae talebau gofal plant yn wych - nid wyf yn cael fy nhrethu ar y lwfans o £243 (sef y mwyafrif y gallaf wneud cais amdano) ac felly rwy’n well yn ariannol o ganlyniad i ddefnyddio’r cynllun ..."

Yr oll sy’n rhaid i chi ei wneud yw:
  1. mynd ar wefan Busy Bees (http://www.computersharevoucherservices.com),
  2. clicio ar y rhan E-talebau, ac yna talu'r gofalydd plant.