X

Cyngor Cefn Gwlad Cymru - Mae’r prosiect hwn wedi caniatáu i’r merched hyn gwblhau camau datblygu nad ydynt ar gael iddynt fel arfer

Storiâu Llwyddiant ~ Cyngor Cefn Gwlad Cymru

'Rydym yn falch iawn ein bod wedi cymryd rhan mewn prosiect gwych'

Yn ôl Helen Jones, y Rheolwr Dysgu a Datblygu, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn manteisio’n llawn ar raglen Cenedl Hyblyg

‘Pan ddaeth yr e-bost yn cynnig cyfle i fenywod gymryd rhan ar gwrs hyfforddiant achrededig mewn arweinyddiaeth, a hynny’n ddi-dâl, ein hymateb cyntaf oedd “Mae’r cynnig hwn yn rhy dda i fod yn wir.”

...Meddai Helen Jones:

‘Fodd bynnag, unwaith i’r prosiect gael ei esbonio i ni, roeddem yn awyddus i gymryd rhan yn y cyfle gwych hwn i fenywod yng Nghymru i ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn arweinyddiaeth

‘Roedd 30 o ferched o’r Cyngor Cefn Gwlad yn ddigon ffodus i ddilyn rhaglen Ascent a chwblhau Dyfarniad Arweinydd Tîm Lefel 2.

Mae adborth o’r cyrsiau a ddarperir gan Chwarae Teg wedi bod yn wych ac mae’r merched a fu ar y cwrs wedi elwa’n fawr ar y cyfle.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cymryd rhan mewn prosiect gwych, ac yn ddiolchgar am y cyfle i helpu cymaint o fenywod i gwblhau’r cwrs.

Fel sefydliad yn y sector cyhoeddus, yn aml nid yw ein cyllidebau hyfforddi’n ddigon mawr i ni allu cynnig y cyfleoedd datblygu personol hyn a diwallu holl anghenion datblygu corfforaethol y sefydliad.

Mae’r prosiect hwn wedi caniatáu i’r merched hyn gwblhau camau datblygu nad ydynt ar gael iddynt fel arfer.

Ymhen amser, y gobaith yw y bydd y sefydliad yn dechrau gweld y manteision hirdymor ac y bydd mwy o fenywod yn gweithio mewn swyddi arwain uwch.’

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach