State Aid and de minimis
Telir am y cymorth y byddwch chi’n ei dderbyn trwy’r rhaglen Esblygu trwy gronfeydd de minimis. Os bydd eich cwmni’n cymryd rhan ym mhob agwedd ar y rhaglen Esblygu, byddwch chi’n derbyn tua £3000 o gymorth a ariennir trwy de minimis yn ystod y 12 mis
Gan fod y gwaith rydym ni’n ei wneud gyda phob cyflogwr yn unigryw, byddwch chi’n cael cyfriflen bersonol gyda phob eitem wedi’i rhestru pan fyddwch chi’n cwblhau’r rhaglen
Mae yna gyfanswm uchaf o gymorth de minimis y gall unrhyw sefydliad ei dderbyn mewn cyfnod o 3 blynedd – os derbynnir mwy na’r cyfanswm hwn, gallech orfod ad-dalu rhywfaint o’r arian a gawsoch.
Yr uchafswm cyfredol yw €200000 dros 3 blynedd gyllidol. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar y Rhaglen Esblygu, bydd gofyn i chi ddarparu manylion am yr holl gymorth de minimis rydych chi wedi’i dderbyn yn y 3 blynedd diwethaf.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn ein hysbysu am yr holl gefnogaeth a chymorth y gallech chi fod wedi’u derbyn, fel y gallwn wirio na fyddwch chi’n mynd y tu hwnt i’r trothwy o €200000.
I gael gwybod mwy am de minimis a chanfod a ydych chi’n gymwys i gymryd rhan, cysylltwch â’ch swyddfa leol.

