Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Business in the Community 2012

Mae’n bryd i chi ddathlu a chael cydnabyddiaeth am eich llwyddiant!

Fel rhan o Wobrau Effaith ar Gymru 2012, rydym wedi ymuno â Busnes yn y Gymuned i greu’r categori Gwobr Sefydliad Hyblyg

Bydd gwneud cais yn ffordd ardderchog i’ch busnes gael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu am ddangos y weledigaeth a’r ymrwymiad i ddatblygu gweithle sy’n mabwysiadu arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac arferion gweithio hyblyg a gweithio o bell pan fo’n briodol

Dyddiad cau 30 Mawrth. Cliciwch yma i fynd yn syth at yr adran gwobrau ar y Busnes yn y Gymuned Gwefan.

Mae’r wobr hon yn cydnabod rhaglenni a mentrau yn y gweithle sy’n dangos dull hyblyg o fynd ati i gynllunio swyddi a’r amgylchedd gwaith, gyda hynny yn ei dro wedi effeithio’n gadarnhaol ar weithwyr a’r busnes yn gyffredinol.

Mae Busnes yn y Gymuned a Chenedl Hyblyg Chwarae Teg yn ceisio cefnogi enghreifftiau o arloesedd a chamau gweithredu gan sefydliadau sydd wedi’u hymrwymo i gynaliadwyedd, ac arferion gwaith teg a blaengar.

Trwy’r wobr hon, mae Busnes yn y Gymuned yn ceisio cydnabod sefydliadau sy’n mynd y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol i feithrin gweithle hollgynhwysol trwy roi polisïau ac arferion ar waith sy’n sicrhau bod gweithlu amrywiol, medrus a hyblyg yn cael ei recriwtio, ei gadw a’i ddatblygu.

Beth sy’n wahanol am y Wobr Sefydliad Hyblyg?  

Mae’r broses o feirniadu’r Wobr Sefydliad Hyblyg yn wahanol i’r Gwobrau Effaith ar Gymru eraill. Mae yna ddwy ran i’r broses sy’n cynnig dau gyfle gwych i’r sawl sy’n ymgeisio gael cydnabyddiaeth.

Chwarae Teg Agile Nation Exemplar Employer 2012 Cyflogwr Delfrydol

Cyflawni Statws Cyflogwr Delfrydol gyda Chenedl Hyblyg Chwarae Teg

Bydd angen i bob ymgeisydd gael ei asesu’n gychwynnol ar gyfer y Wobr hon. Os bydd y beirniaid yn credu bod eich cais wedi cyrraedd safon uchel ac yn dangos bod yna arferion gorau ar waith, bydd eich sefydliad yn ennill ‘Statws Cyflogwr Delfrydol’ gan brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg. 

Cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Effaith ar Gymru Busnes yn y Gymuned 

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd safonau uwch yn y rownd feirniadu gyntaf hefyd yn ennill ‘Statws Cyflogwr Delfrydol’ AC yn mynd ymlaen i ail rownd y gystadleuaeth, ac yno gallech gyrraedd rhestr fer rownd feirniadu Gwobrau Effaith ar Gymru Busnes yn y Gymuned. Bydd enwau enillwyr y Gwobrau hyn yn cael eu cyhoeddi yng Nghinio Gala’r Gwobrau Rhagoriaeth.

Beth yw Statws Cyflogwr Delfrydol?

Golyga hyn eich bod wedi dangos safonau heb eu hail wrth i chi fynd ati i gynllunio swyddi a’r amgylchedd gwaith, gyda hynny wedi effeithio’n gadarnhaol ar weithwyr a’r busnes yn gyffredinol.

Beth yw manteision cael Statws Cyflogwr Enghreifftiol?
  • Byddwch chi’n gallu defnyddio’ch “Statws Cyflogwr Delfrydol” yn eich gohebiaeth ac ar eich gwefan fel arwydd o ymrwymiad. Mae hyn yn cynnwys logo Cyflogwr Delfrydol Cenedl Hyblyg Chwarae Teg.
  • Hwyrach y bydd tîm Cenedl Hyblyg Chwarae Teg yn cysylltu â chi i drafod eich arferion gwaith a gallech ddod yn ‘astudiaeth achos’ i helpu sefydliadau eraill i wella.
  • Byddwch chi’n cael eich gwahodd gan Genedl Hyblyg i dderbyniad Cyflogwr Delfrydol i dderbyn eich gwobr. Bydd y derbyniadau hyn yn cael eu cynnal yn y Gogledd, y De-ddwyrain a’r De-orllewin
  • Bydd eich sefydliad yn cael ei restru ar wefan Cenedl Hyblyg Chwarae Teg fel cyflogwr delfrydol

Ar hyn o bryd, gellir ond ennill y ‘Statws Cyflogwr Delfrydol’ trwy ymgeisio am Wobrau Effaith ar Gymru 2012 Busnes yn y Gymuned.

Dyddiad cau 30 Mawrth. Cliciwch yma i fynd yn syth at yr adran gwobrau ar y Busnes yn y Gymuned Gwefan.

Pob lwc gyda’ch cais!