Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Chwarae Teg

Mae prosiect Cenedl Hyblyg, a ddatblygwyd gan Chwarae Teg, yn rhan o amrywiaeth o weithgareddau mae’r sefydliad yn eu cyflawni i gefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru

Dyma gyflwyniad cryno i Chwarae Teg a’r gwaith mae’r sefydliad yn ei wneud. Mae’r prosiectau sy’n cael eu datblygu a’u darparu gan Chwarae Teg wedi darparu pob math o gymorth effeithiol i fenywod a busnesau.

Dilynwch ni ar LinkedIn.com

Cyflawniadau

Dyma rai ffigurau i ddangos y gwahaniaeth mae Chwarae Teg wedi’i wneud:
  • Cychwynnodd 617 o fusnesau newydd gyda chymorth ein prosiect Menter Merched Cymru. Creodd y busnesau hyn gyfanswm o 912 o swyddi newydd.
  • Rhwng 2004 a 2007, helpodd y prosiect Ready SET Go dros 300 o fenywod i droi eu llaw at sgiliau mewn sectorau anhraddodiadol fel adeiladu.
  • Hyd at fis Awst 2011, mae dros 1,334 o fenywod wedi cofrestru ar brosiect Cenedl Hyblyg ac mae 578 eisoes wedi ennill dyfarniadau a achredir gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
  • Ar hyn o bryd (Awst 2011), mae dros 188 o fusnesau’n cymryd rhan yn rhaglen Esblygu Cenedl Hyblyg i helpu i gefnogi’r defnydd effeithiol o amrywiaeth yn y gweithle.
Crynodeb o Chwarae Teg

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ yn Llywodraeth Cymru, oedd yn gyfrifol am arwain y gwaith o sefydlu Chwarae Teg ym 1992.

Fe’i sefydlwyd i gefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, ac mae’n cyflogi dros 50 o bobl ledled Cymru mewn swyddi ym maes polisi, ymchwil a hyfforddiant, a chymorth ymarferol i fenywod a busnesau fel rhan o’r prosiect Cenedl Hyblyg.

Cefnogi datblygiad economaidd menywod

Mae mwy na hanner y boblogaeth a 43% o’r gweithlu yn fenywod, ond mae dulliau gweithio traddodiadol yn golygu nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi uwch ac mewn rhai sectorau diwydiannol. Mae hyn yn arwain at fwlch cyflog o 10.2% rhwng y rhywiau. Yn ogystal â bod yn fater cydraddoldeb, nid yw hyn yn gwneud synnwyr i’r economi.

I sbarduno datblygiad menywod yn y gweithle, mae Chwarae Teg yn datblygu pedwar maes ffocws allweddol:
  • Helpu menywod i gael gwaith
  • Arferion gweithio hyblyg a chynaliadwy
  • Annog menywod i fentro

Mae Chwarae Teg am sicrhau nad yw eich rhyw yn effeithio ar eich gallu i gamu ymlaen yn y gwaith, i ddewis proffesiwn ac i fod yn llwyddiannus, felly dyna pam mae’n gweithio i gefnogi datblygiad economaidd menywod.

Chwarae Teg ar waith

Mae Chwarae Teg yn gweithio ar lefel strategol a gweithredol, gan ddylanwadu ar bolisi a gweithio’n uniongyrchol gyda menywod a chyflogwyr.

Mae hyn yn sicrhau bod ganddo wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o ddatblygiadau economaidd a datblygiadau yn y gweithlu sy’n effeithio ar fenywod a busnesau. Mae hefyd yn galluogi’r sefydliad i’w herio trwy ddatblygu a darparu prosiectau.

Ar hyn o bryd, mae Chwarae Teg yn rheoli prosiect Cenedl Hyblyg, sy’n derbyn £12.5 miliwn o gyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, ac a fydd yn dylanwadu ar ragolygon gyrfa ac arferion gwaith 2,790 o fenywod a 610 o fusnesau.

I ddysgu mwy am waith Chwarae Teg, ewch i www.chwaraeteg.com