Chwarae Teg ymhlith y 30 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio yn y DU
Mae Chwarae Teg wedi cael lle ar restr y 30 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio yn y DU, ochr yn ochr â chyflogwyr mawr fel McDonalds, Banc Barclays a Sainsbury's
Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg: Pellaf ar y chwith. Enillwyr: cyflogwyr gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio 2011 ~ Gwyliwch y rhestr lawn o enillwyr disglair 2011: Top 30
Mae'r gwobrau, a sefydlwyd gan yr elusen gwaith-bywyd Working Families, yn cydnabod arloesedd a meddwl creadigol o ran dylunio polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd. Maent hefyd yn rhannu gwybodaeth am arferion gorau ac yn annog dulliau arloesol o wella bywydau gwaith a llwyddiant busnesau
Cyrhaeddodd Chwarae Teg y rhestr fer ar gyfer gwobr y Cyflogwr Gorau ar gyfer Gweithio Hyblyg hefyd, ochr yn ochr â chwmnïau mawr fel Allianz Insurance UK, Accenture, Dell Corporation a Centrica - enillwyr y categori.
Llwyddodd polisïau gweithio hyblyg rhagorol Chwarae Teg i ddal sylw'r beirniaid yn y rownd gyntaf yn gynharach eleni. O ganlyniad, enillodd y sefydliad le yn rownd derfynol categori y Cyflogwr Gorau ar gyfer Hyblygrwydd am y polisïau canlynol:
- Cyfrifir gwyliau blynyddol mewn oriau er mwyn sicrhau cymaint o hyblygrwydd â phosibl - gall staff gymryd 3 awr i ffwrdd i fynd i gyngerdd ysgol, er enghraifft.
- Gall staff gymryd gwyliau estynedig trwy drefniant a defnyddio eu gwyliau blynyddol o 40 diwrnod i gymryd diwrnod i ffwrdd ar eu pen-blwydd neu gymryd ‘diwrnod gwely' (duvet day).
- Mae amserau dechrau a gorffen hyblyg ac amser i ffwrdd in lieu ar gael i'r holl staff.
- Anogir gweithwyr i gyflwyno syniadau newydd ar gyfer gweithio hyblyg - ‘mae unrhyw beth yn bosibl'!
Meddai Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg:
"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynol am yr ail flwyddyn yn olynol, ar ôl ennill gwobr y BBaCh Gorau yn 2010.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Chwarae Teg wedi bod ar flaen y gad o ran hyblygrwydd yn y gweithle, gan gyflwyno hawl gyffredinol i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg sy'n ddiduedd o ran rhyw y sawl sy'n gwneud y cais a'r rheswm dros y cais.
"Erbyn hyn, mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno hawl gyffredinol i wneud cais i weithio'n hyblyg yn 2015. Erbyn hynny, bydd Chwarae Teg wedi bod yn cynnig yr hawl i'r holl staff wneud cais i weithio'n hyblyg ers bron i 10 mlynedd.
"Rydyn ni wrth ein bodd bod busnesau byd-eang yn dechrau rhoi arferion gweithio hyblyg ac arferion sy'n ystyriol o deuluoedd ar waith, ac rydym yn hynod falch ein bod ymhlith y 30 Cyflogwr Gorau yn hyn o beth, ochr yn ochr â chymaint o gyflogwyr mor gyfarwydd."
Roedd y rhestr hefyd yn cynnwys Cymdeithas Tai Wales & West (WWHA) sy'n darparu cartrefi a gwasanaethau i fwy na 25,000 o bobl mewn 15 awdurdod lleol yng Nghymru.
Meddai'r Prif Weithredwr Anne Hinchey:
"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ymhlith y 30 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio yn y DU, ochr yn ochr â chwmnïau rhyngwladol a brandiau adnabyddus.
"Yn WWHA, mae bod yn ystyriol o deuluoedd yn golygu mwy na chynnig pecyn tâl mamolaeth da neu bolisïau ysgrifenedig; mae'n golygu agwedd graidd at weithio'n hyblyg i bob aelod o staff, waeth a oes ganddynt blant, cyfrifoldebau gofal neu ofynion eraill yn eu bywydau personol."
Darllenwch fwy am agwedd Cymdeithas Dai Cymru a Gorllewin Lloegr at arferion gweithio hyblyg yn ein cylchlythyr Hydref/Gaeaf, a gyhoeddir cyn hir.
Fel rhan o'i waith i gefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, mae Chwarae Teg yn parhau i hyrwyddo arferion sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio hyblyg, trwy ei Rwydwaith Cydbwysedd Gwaith-Bywyd sy'n cyfarfod ledled Cymru a thrwy ei raglen Esblygu i gyflogwyr sy'n rhan o brosiect Agile Nation Chwarae Teg, sy'n cael £12 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dolenni sy'n berthnasol i
erthygl hon:
Top Employers for Working Families
www.topemployerforworkingfamilies.org.uk
Asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer menywod Cymru
www.chwaraeteg.com
Oriel o'r Enillwyr 2011
www.topemployersforworkingfamilies.org.uk
Cyhoeddwyd ar: 4/10/2011

