Cheyanne yn ennill gwobr Addysg Oedolion!
Llongyfarchiadau i Cheyanne Staley o Flaenau, sydd wedi bod yn cymryd rhan ym mhrosiect Cenedl Hyblyg, ar ennill gwobr Dysgwr Gweithle y Flwyddyn
Derbyniodd Cheyanne y wobr yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion a gynhaliwyd 2011 gan NIACE Dysgu Cymru fel rhan o’i ymgyrch genedlaethol Wythnos Addysg Oedolion
![]()
Gwyliwch y fideo YouTube yn cynnwys Cheyanne a Christine Rice
Mae NIACE Dysgu Cymru, cangen NIACE yng Nghymru, yn hyrwyddo addysg oedolion mewn sawl ffordd, gan gefnogi pobl fel Cheyanne sy’n wynebu rhwystrau economaidd a chymdeithasol i addysgu
Roedd Cheyanne Staley yn gweithio fel cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch mewn cwmni gweithgynhyrchu pan gyfarfu â Christine Rice o Chwarae Teg
Meddai Christine:
"Fe wnes ddarganfod ei bod wedi dysgu ei hunan i ddarllen pan oedd yn naw oed gan ei bod wedi colli ysgol oherwydd bod ei rhieni yn symud o amgylch y wlad. Roedd yn ansicr iawn i ddechrau am ddychwelyd i ddysgu oherwydd y profiad ofnadwy roedd hi wedi’i gael ar gwrs arall ond fe wnes roi sicrwydd iddi y byddem yn gweithio ar sail un i un ac yn y diwedd cytunodd Cheyanne i ddod ar y cwrs ILM.
“Rhoddodd y cwrs fywyd newydd i Cheyanne a datgelu'r galluoedd oedd wedi bod yno drwy’r amser. Cefais fy synnu gan ei haseiniadau ysgrifenedig a'i hangerdd i fachu yn y cyfle i ddysgu a thyfu.”
Meddai Cheyanne:
“Fe wnaeth Chris fy enwebu ar gyfer y wobr Dysgwr Gweithle y Flwyddyn gan ei bod hi’n gallu gweld faint roeddwn i wedi elwa ar gwblhau’r cwrs ILM trwy Cenedl Hyblyg. Gwellodd fy hyder a’m sgiliau rheoli, yn ogystal â’m gallu i wneud fy ngwaith yn effeithiol. Dychwelais i ddysgu pan oeddwn i’n 50 oed, sy’n profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i wella’ch rhagolygon gyrfa a’ch boddhad yn eich swydd.”
Meddai Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg:
“Rydym yn falch iawn bod gwaith caled a phenderfyniad Cheyanne wedi cael eu cydnabod gyda’r wobr hon. Mae ei phrofiad yn esiampl gwych i fenywod eraill ac mae’n fraint gwybod bod Cheyanne wedi elwa cymaint ar brosiect Cenedl Hyblyg.”
Cysylltiedig: Cenedl Hyblyg wedi Dathlu Wythnos Dysgu Oedolion 2011
![]()
Cyhoeddwyd ar: 20/5/2011

