Cenedl Hyblyg yn parhau i Esblygu
Mae prosiect blaenllaw Chwarae Teg Cenedl Hyblyg sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn gweithredu ei Raglen Esblygu ar gyfer cyflogwyr
Mae’r rhaglen yn darparu cefnogaeth deilwredig i fusnesau bach i’w helpu i addasu ac esblygu mewn amgylchedd fusnes sy’n newid yn gyflym gan gynnwys help i gyflwyno strategaethau amrywioldeb penodol sy’n gweithio
Rhaglen Esblygu i Fusnesau ~ Rheoli Amrywiaeth i Lwyddo mewn Busnes
Mae dros 150 o gyflogwyr ar draws Cymru ar hyn o bryd yn gweld y buddion o ymuno â Rhaglen Esblygu Cenedl Hyblyg, ac rydym yn brysur yn edrych am gyflogwyr a fyddai’n hoffi defnyddio ein gwasanaethau cefnogi i ddatblygu gweithle cadarnhaol, cynyddol, beth bynnag eu maint a’i sector.
Mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn golygu fod busnesau bach yn gorfod bod yn fwy arloesol nag erioed o’r blaen er mwyn gwneud y gorau o bob cyfle sy’n dod iddynt.
Mae gweithlu, bas cwsmer a thechnoleg newydd sy’n newid o hyd, mwy o gyfle i dendro ar gyfer cytundebau'r sector cyhoeddus, yn ogystal â’r galw mwy am weithio hyblyg a chydbwyso bywyd a gwaith a hyd yn oed masnachu byd eang, yn golygu fod pob cyflogwr wedi gorfod addasu ac esblygu i aros yn y gêm.
Ers blynyddoedd mae corfforaethau mawr wedi cydnabod a mwynhau’r buddion busnes o greu gweithlu amrywiol, yn ogystal â’r cynyddu cynhyrchiant sy’n dod wrth weithredu gweithio hyblyg a chreu cydbwyso bywyd a gwaith da.
Mae ein profiad yn dangos fod yr atebion hyn yn gweithio'r un mor dda ar gyfer sefydliadau llai hefyd, ond yn aml fod y dasg o gyflwyno’r cynlluniau hyn yn gallu ymddangos yn ormod i weithfeydd heb adran AD benodol. Yn ogystal mae cyflwyno y Ddeddf Gydraddoldeb newydd ym mis Hydref 2010 yn rhoi cyfle i fusnesau bach i adolygu a diweddaru eu polisïau a gweithdrefnau.
Mae’r Rhaglen Esblygu ar gyfer cyflogwyr, rhan o’n prosiect blaenllaw Cenedl Hyblyg sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn darparu cefnogaeth deilwredig i fusnesau llai ac yn eu cynorthwyo i gyflwyno strategaethau amrywioldeb penodol sy’n gweithio
Yr allwedd i’r rhaglen Esblygu yw cydnabod fod anghenion pob sefydliad yn unigryw a bod rhaid i’r gweithredoedd yr ydym yn eu cynghori gael eu harwain gydag achos fusnes glir. Wrth wneud hynny, rydym yn sicrhau fod strategaethau amrywioldeb yn arwain at welliannau busnes mesuradwy, heb gyfaddawdu effeithiolrwydd y sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda hwy.
Mae’r rhaglen yn dechrau gyda gweithdy un diwrnod a fydd yn galluogi
cynrychiolwyr i:
- Ddeall effaith y Ddeddf Cydraddoldeb newydd
- Facsimeiddio'r buddion busnes ar gyfer amrywioldeb
- Ddatblygu arferion gweithio mwy effeithiol
- Archwilio gweithio hyblyg ac o bell
Yn dilyn y gweithdy gall busnesau sy’n gymwys gael mynediad i hyd at 6 diwrnod o gefnogaeth busnes rhad ac am ddim i’w cynorthwyo i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynyddol
Gallwn hefyd gynnig mynediad i gefnogaeth arbenigol, ddiduedd i weithredu arferion gweithio o bell, gan gynnwys cymorth gyda dod o hyd i’r dechnoleg gywir i ddefnyddio a datblygu polisiau i sicrhau y bydd gweithio o bell yn cefnogi ac o fudd i’r busnes.
Mae dros 150 o gyflogwyr ar draws Cymru ar hyn o bryd yn gweld y buddion o ymuno â Rhaglen Esblygu Cenedl Hyblyg, ac rydym yn brysur yn edrych am gyflogwyr a fyddai’n hoffi defnyddio ein gwasanaethau cefnogi i ddatblygu gweithfeydd cadarnhaol, cynyddol, beth bynnag eu maint a’i sector.

