
Cathy Kennedy yn siarad am deulu a threfniadau gweithio hyblyg gyda’r Western Mail
Siaradodd Cathy Kennedy o’r rhaglen Cenedl Hyblyg gyda’r Western Mail y
mis hwn ynglŷn â’i phrofiad o geisio ymdopi â gwaith a bywyd teuluol
Cafodd yr uwch swyddog prosiect sy’n fam i dri o fechgyn ifanc ei chynnwys yn erthygl ffordd o fyw y papur newydd, ‘My favourite room’ lle y disgrifiodd ei hystafell wely fel ‘hafan dawel fendigedig’ ble mae’n mynd i ddianc oddi wrth y sŵn i weithio ar ei gliniadur
Mae Cathy’n gweithio yn ein swyddfa yn Ne Ddwyrain Cymru, ond mae’n aml ar grwydr o gwmpas ardaloedd megis Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen a Blaenau Gwent yn darparu cymorth i fusnesau ac yn hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, yn ogystal â gwneud ychydig o waith oddi cartref ei hun.
Meddai yn yr erthygl:
"debyg bod gennyf dipyn o brofiad o’r pethau rwy’n siarad amdanynt gan fy mod wedi gorfod ymdopi â cheisio cydbwyso bywyd a gwaith fy hun ers i’r bechgyn gael eu geni. “Ro’n i’n arfer defnyddio’r swyddfa ond mae’r bechgyn wedi cymryd honno drosodd gyda’u gemau Wii ac ati, felly mae’n haws dod i fyny’r grisiau. Rwy’n gallu cuddio yno heb amharu arnynt, a chael ychydig funudau o dawelwch, gobeithio, cyn iddynt ruthro’i mewn!"
Mae Cathy wedi gweithio i Chwarae Teg ers deng mlynedd, yn cynorthwyo busnesau bach a chyflogwyr gyda materion yn ymwneud ag amrywiaeth a hyblygrwydd ac rydym yn falch ei bod wedi cael y cyfle i rannu ei stori gyda Chymru a’r byd.
Gallwch ddarllen yr erthygl gyfan yma: http://tinyurl.com/3qz8fnp
![]()
Cyhoeddwyd ar: 7/5/2011

