Cartrefi RhCT
Menter gymdeithasol ddi-elw o’r enw ‘Cwmni Cymunedol Cydfuddiannol’ yw Cartrefi RhCT
Ei ddiben sylfaenol yw bod yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) ac, yr un fath â phob RSL arall yng Nghymru, mae wedi cofrestru gyda Llywodraeth y Cynulliad ac yn cael ei reoleiddio ganddi
Math newydd o RSL yw Cwmni Cymunedol Cydfuddiannol, sy’n sicrhau y gall tenantiaid ddod yn ‘berchnogion cyffredin’ ar y sefydliad a chael cyfleoedd go iawn i reoli eu cartrefi a’u cymunedau.
Yn dilyn trosglwyddo stoc a phersonél tai cyngor ym mis Rhagfyr 2007, mae gan Gartrefi RhCT dros 350 o weithwyr cyflogedig bellach.
Rhesymau dros ddiddordeb mewn Cenedl Heini
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cartrefi RhCT wedi gweithio mewn partneriaeth â Chwarae Teg i gynnal y gweithgareddau canlynol:
- Archwiliad o arferion, polisïau a gweithdrefnau gweithio hyblyg cyfredol
- Adolygiad o anghenion busnes amrywiol ledled y sefydliad trwy weithdai
- Datblygu llyfryn gweithio hyblyg sy’n cynnig ymatebion ymarferol ac arloesol i weithio hyblyg ac atebion tîm i dimau a chwsmeriaid
- Darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer rheolwyr
- Cyfres o sesiynau atebion tîm ledled y sefydliad i annog a helpu timau i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio
Oherwydd llwyddiant ysgubol y gwaith hwn, mae Cartrefi RhCT yn awyddus i barhau i weithio gyda Chwarae Teg, gan ddefnyddio prosiect Cenedl Heini i ddatblygu eu polisïau a’u gweithdrefnau ymhellach ac achub ar y cyfle i atgyfeirio gweithwyr cyflogedig benywaidd i raglen Ascent.
Pam Cenedl Hyblyg?
‘Mae gweithio hyblyg yn adlewyrchu anghenion newidiol ein cwsmeriaid a’n gweithwyr cyflogedig. Trwy weithio gyda Chwarae Teg ac ymgynghori â’n holl staff, rydym wedi gallu datblygu agwedd gadarnhaol ac arloesol at weithio hyblyg sy’n canolbwyntio ar wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid gan helpu staff a’u teuluoedd gyda’u hymrwymiadau personol ar yr un pryd. Rydym wedi dysgu bod angen i hyblygrwydd fod yn rhan o’n diwylliant, ac rydym yn rhoi cynnig ar sawl dull gweithio hyblyg, yn unol ag anghenion unigolion a blaenoriaethau busnes'.
‘Er bod rhai rhwystrau i’w goresgyn o hyd, rydym yn rhagweld y manteision enfawr yn sgil gweithio hyblyg mewn perthynas â darparu gwasanaethau i gwsmeriaid a sicrhau brwdfrydedd a boddhad gweithwyr cyflogedig. Yr unig ffordd y gallwn ni fod yn ‘gyflogwr dewis cyntaf’ yw trwy ddarparu’r math o amgylchedd gwaith sy’n denu a chadw’r gweithwyr gorau.
Mae prosiect Cenedl Heini yn gyfle gwych i ni barhau â’r gwaith gwych rydym wedi’i gyflawni gyda Chwarae Teg, gan ein galluogi i barhau i ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth o faterion gweithio hyblyg a chydraddoldeb ac amrywiaeth gan roi cyfle i’n staff benywaidd gynyddu a datblygu yn eu swyddi ar yr un pryd.’
Canlyniadau Cenedl Hyblyg i’r gweithwyr cyflogedig a’r busnes
Mae Cartrefi RhCT yn ceisio cyflawni’r canlynol:
- Rhoi cyfle i fenywod wella’u sgiliau a’u galluoedd, magu hyder a datblygu eu gyrfaoedd
- Pob gweithiwr cyflogedig i elwa ar y polisïau a’r gweithdrefnau diweddaraf sy’n cyfrannu at well hyblygrwydd a mwy o frwdfrydedd ymhlith gweithwyr cyflogedig
- Ennill Nod Barcud Chwarae Teg am Arfer Gorau a chydnabyddiaeth fel ‘cyflogwr dewis cyntaf’.
Crynodeb
Fel sefydliad newydd, mae Cartrefi RhCT yn wynebu heriau mawr a dyfodol cyffrous. Mae wedi gweithio mewn partneriaeth â Chwarae Teg ac wedi cynnal pob math o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a rhoi diwylliant o weithio hyblyg ar waith.
Mae Cartrefi RhCT yn cydnabod bod gweithio hyblyg yn ymwneud ag addasu patrymau gwaith, ac nad yw un dull yn addas i bawb. Mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at y manteision a ddaw yn sgil gweithio hyblyg i gwsmeriaid a gweithwyr cyflogedig.

