X

O ganlyniad i waith Cenedl Hyblyg, gall pedair menywweithio o bell

Success Story ~ Camre Cymru / Outlook Expeditions

O ganlyniad i waith Cenedl Hyblyg, gall pedair menyw weithio o bell

Cafodd Camre Cymru ei sefydlu gan Matt Wells a Rhys Davies yn 2001 a deilliodd o syniad syml; rhoi’r cyfle i bob person ifanc gael profiad o daith anturus mewn gwlad dramor. Erbyn hyn, mae’r cwmni wedi anfon mwy na 7,000 o bobl ifanc ar deithiau i bedwar ban byd.

Mae’r busnes arloesol hwn sydd wedi ennill nifer o wobrau yn ymfalchïo yn ei allu i osod safonau ar gyfer y diwydiant teithiau antur ac mae wedi ymrwymo i gynnig profiadau fydd yn cyfoethogi bywyd pobl ifanc yn barhaol.

Sut y gwnaethom ni helpu

Fel rhan o raglen Esblygu Cenedl Hyblyg, darparodd Carl Williams gyngor a chefnogaeth ddiduedd er mwyn helpu i gydnabod manteision gweithio o bell i fusnesau a’u gweithwyr benywaidd. Rhoddwyd cyfarpar gweithio o bell i 8 o fenywod - 4 ohonynt fel rhan o’u swydd, gan ddarparu swyddfa gartref lawn (desg, cadair, argraffydd, gliniadur a ffôn VOIP) a 4 ohonynt ar ôl cyfnod mamolaeth

Y manteision i Camre Cymru

O ganlyniad i waith Cenedl Hyblyg, gall pedair menyw weithio o bell. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt wrth gyflawni eu gwaith ac wrth gydbwyso ymrwymiadau y tu allan i’r gwaith. Mae un aelod staff wedi llwyddo i ddod yn ôl i’r gwaith yn raddol fel rhan o’i phecyn cyfnod mamolaeth, opsiwn a amlygwyd fel rhan o’r adolygiad gweithio hyblyg a wnaethpwyd gan Cenedl Hyblyg.

Mae Rheolwr Adnoddau Dynol Camre Cymru, Sean Banning, yn egluro:

Ein nod yw denu’r ymgeiswyr gorau, gyda sgiliau arbenigol, i ymuno â ni. Ry’n ni wedi gweld trwy brofiad bod hyn yn denu gweithwyr o ardal ddaearyddol eang. Mae gweithio o bell yn cydfynd yn llwyr â hyn ac mae’r menywod sy’n gwneud hyn diolch i Cenedl Hyblyg eisoes yn manteisio ar well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, llai o gymudo a’r gallu i gyflawni mwy wrth weithio y tu allan i’r swyddfa.

Further benefits

Two of Outlook Expeditions’ female staff members have gained internal promotions having taken part in Agile Nation’s Ascent training and development programme.