Womenspire ~ Rhannu Ysbrydoliaeth
Bonita Norris, y Brydeinwraig ieuangaf i ddringo Everest
'Cefais fy ysbrydoli i ddringo mynydd. Roedd y syniad yn gwrthod diflannu; roeddwn yn benderfynol o'i gyflawni'
"Roedd cyrraedd copa Everest yn deimlad anhygoel, gyda dringwyr eraill o'm hamgylch roeddwn yn llythrennol ar ben y byd. Ar y ffordd i fyny cefais fy ysgogi gan yr holl gariad a chefnogaeth a dderbyniais wrth i mi ymdrechu i gyflawni fy mreuddwyd ac ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb fy nhîm noddi yn VocaLink. Fe wnes i hyd yn oed ganu cân y Beatles "All you need is love" wrth i mi ddringo i'n nghadw i fynd. Rwyf wedi cael nifer o ddylanwadau ysbrydoledig yn fy mywyd sydd wedi fy helpu i gyflawni fy nodau.
Fe wnaeth fy llys-dad Rob fy hyfforddi mewn athletau pan yr oeddwn yn ifanc ac roedd yn fy annog o hyd i beidio rhoi'r gorau iddi. Un diwrnod, pan yr oeddwn wedi llwyr ymlâdd ac ar fîn rhoi'r gorau iddi, fe ddywedodd wrthyf mae dyma'r pwynt sy'n gwneud gwahaniaeth rhwng bod yn rhedwraig dda a rhedwraig dda iawn. O'r foment honno, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau rhoi'r ymdrech a'r pendantrwydd ychwanegol hynny a oedd ei angen i fod yn rhedwraig ardderchog. Rwy'n defnyddio'r un ethos hynny wrth ddringo. Fe ddywedodd y dringwr Robert Casserley unwaith "Mae yna ddringwyr copa tywydd teg a dringwyr copa pob tywydd".
Fe wnaeth y dywediad hwn fy ysbrydoli fi i roi fy nghynnig gorau i ddringo Everest hyd yn oed os oedd yn golygu delio gydag amodau tywydd gwael iawn . Mae dringo Everest wedi compawndio fy nghredoau craidd sef gweithio'n galed, credu yn eich hunan ac i ddilyn eich breuddwyd bob amser. Peidiwch byth a thanbrisio eich hunan. Doedd dim torri corneli wrth gyrraedd y copa. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod yn rhwydd, felly fe ddeliais gyda'r rhwystrau ac yn bennaf oll gweithiais fy nhîn i ffwrdd!"

