
ASE yn ymweld â phrosiect Cenedl Hyblyg
Chwarae Teg
Cafodd prosiect gwerth miliynau o bunnoedd sy’n cynorthwyo menywod dros Gymru gyfan i ddringo’r ysgol yrfaol ymweliad gan yr ASE Cymreig Llafur Derek Vaughan
Fe wnaeth menywod sy’n gwella eu sgiliau trwy gwblhau cyrsiau rheolaeth neu trwy gofrestru gweithwyr ar gyfer hyfforddiant gyfarfod yr ASE ym Marc Busnes Melin Corrwg, Trefforest
ASE yn ymweld â phrosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg
Trafododd y grŵp fuddion y prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhyw mewn cyflogaeth ac yn cynorthwyo menywod i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Mae’r prosiect sy’n werth £12.5 miliwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i nod yw taclo’r anawsterau sy’n cael eu hwynebu gan fenywod yn y gweithle.
Trwy ddarparu hyfforddiant a mentora, bydd tua 2,800 o fenywod yn y 15 rhanbarth o’r ardal Cydgyfeirio yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gyflawni cyfleoedd cyflogaeth sy’n talu’n well.
Mae hyn yn cynnwys 15 awdurdod lleol ar draws Gogledd, Gorllewin ac ardaloedd y Cymoedd Cymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae Cenedl Hyblyg hefyd yn gweithio gyda dros 600 o gyflogwyr ar faterion hyfforddiant, cydraddoldeb ac amrywioldeb, yn codi ymwybyddiaeth o’r buddion o weithio hyblyg, yn ogystal ag addysgu cyflogwyr ynglŷn â materion cydbwyso bywyd a gwaith.
Wrth siarad gyda chyfranogwyr y prosiect am eu profiadau, dywedodd Mr Vaughan:
“Mae’n galonogol i glywed adwaith positif ynglŷn â llwyddiant Cenedl Hyblyg gan rai o’r menywod sydd eisoes yn elwa o’i rhaglenni hyfforddiant a chefnogaeth.
“Roedd yn dda clywed gan fenywod sut fod hyfforddiant yn eu cynorthwyo hwy i gyflawni eu potensial. Mae’r prosiect yn rhoi hwb hyder enfawr i’r menywod hyn, yn eu darparu gyda’r cyfleoedd na fyddent wedi eu derbyn fel arall ar gyfer cael llwyddiant yn y gwaith, i reoli eu cydbwyso bywyd a gwaith a chefnogi eu teuluoedd yn well.
“Mae adeiladu’r sgiliau a hyder ychwanegol hynny yn hanfodol ar gyfer sicrhau fod gan Gymru'r gweithlu sydd ei hangen arni i ddod allan o’r dirwasgiad yn gryfach.
“Mae’n bwysig fod anghenion cyflogwyr ddim yn cael eu hanwybyddu wrth i ni edrych ymlaen tuag at weithlu mwy cyfartal wrth ystyried rhywedd. Mae Cenedl Hyblyg yn gweithio’n galed i sicrhau fod cyflogwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i helpu lleihau gwahaniad yn y farchnad lafur, a chynnig atebion gweithio hyblyg i fenywod sy’n ymarferol ac effeithiol. Mae wedi bod yn wych clywed cyflogwyr yn siarad ynglŷn â sut mae’r ffordd yma yn barod yn gweithio iddynt.”
![]()
Cyhoeddwyd ar : 26/03/2010

