X

Ennill cymhwyster cydnabyddedig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)

Rhaglen Esgyniad i Fenywod

Eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Beth mae hyn i gyd amdano?

Gan fod y prosiect yn cael ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru mae’r Rhaglen Esgyniad yn rhad ac am ddim

Mae’r Rhaglen Esgyniad yn rhaglen gyflawn o hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi ei ddatblygu i’ch helpu i ddysgu sgiliau arwain tîm a rheolaeth allweddol, ennill cymhwyster cydnabyddedig, archwilio eich cyfleoedd ar gyfer datblygu yn y gweithle a magu hyder i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Mae Esgyniad yn cynnig ystod o fuddion personol gan gynnwys:
  • Ennill cymhwyster cydnabyddedig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)
  • Cefnogaeth, cyngor ac arweiniad 1i1 wedi ei deilwro
  • Sesiynau mentora a chyfleoedd rhwydweithio
  • Y cyfle i ymgymryd â modiwlau astudio pellach
  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau rhad ac am ddim
  • Cyfle i ymgeisio am lwfans hyfforddi
  • Mynediad i Cenedl Hyblyg 24/7 - adnodd datblygiad gyrfaol ar lein

Lawrlwythwch y llyfryn EsblyguLinc

Ydych chi’n barod am Esgyniad? Eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Cysylltwch â niLinc

Cenedl Hyblyg yn eich ardal

I sicrhau ein bod yn cyflawni'r prosiect Cenedl Hyblyg yn effeithiol ar draws Cymru, mae gennym dimoedd wedi eu lleoli ar draws y wlad.  I weld sut y gallwn eich helpu cysylltwch â ni 

Line

Mae Chwarae Teg Cenedl Hyblyg yn cael ei chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru