
Y Rhaglen Esblygu i Gyflogwyr
Rheoli Amrywioldeb ar gyfer Llwyddiant mewn Busnes
Mae’r Rhaglen Esblygu yn rhoi cyfle i fusnesau bach a chanolig ddatblygu a gweithredu strategaethau ac arferion gorau yn ymwneud ag amrywiaeth, a’u gweithredu mewn ffordd a all helpu’r busnes i lwyddo heb orfod gwario llawer iawn o arian, os o gwbl
Hyd yn oed os oes gennych chi bolisïau eisoes sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, mae Esblygu’n cynnig cymorth ymarferol i droi’r polisïau hyn yn atebion ymarferol sy’n cyflwyno manteision parhaus i’ch busnes a’ch gweithwyr
Pan fyddwch chi’n datblygu ac yn gweithredu eich strategaeth amrywiaeth, bydd eich busnes yn ymuno â’r prif sefydliadau yn y DU sydd eisoes wedi gweld manteision mabwysiadu arferion gorau o’r fath.
|
Mae’r tudalennau hyn yn esbonio’r rhaglen Esblygu, sut mae’n gweithio a sut gall eich busnes elwa. Gan fod y rhaglen hon yn rhan o brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg, caiff ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru*
I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu cyfarfod am ddim, heb ymrwymiad gydag Uwch-swyddog Prosiect, ffoniwch eich swyddfa leol:
Gogledd Cymru: 01492 511705
De Ddwyrian Cymru: 01443 824410
De Orllewin Cymru: 01554 770612
![]()
Mae Chwarae Teg Cenedl Hyblyg yn cael ei chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru
* Rhaid i gyflogwyr fod mewn ardal awdurdod lleol sy’n rhan o ardal Cydgyfeirio Cymru. I gael mwy o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i dderbyn cymorth am ddim, cysylltwch â ni yn un o’n swyddfeydd lleol

