Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Storiâu Llwyddiant ~ Anheddau Cyf

'Mae’r holl sefydliad yn cefnogi pob agwedd ar brosiect Cenedl Hyblyg'

Anheddau Cyf, Darparwr gofal cymdeithasol dielw, Bangor, yn darparu cymorth yng Ngogledd Cymru

Meddai prif weithredwr Anheddau, Janetta Toleman Jones:

"Trwy Raglen Esblygu, mae Anheddau wedi gallu gweld sut mae’r gweithlu’n esblygu mewn nifer o wahanol ffyrdd dros amser a dechrau cynllunio ar gyfer olyniaeth.

Yn ogystal â’r rhaglen Esblygu, mae rhaglen Esgyniad wedi galluogi Anheddau i nodi a meithrin rheolwyr yfory; mae’n rhoi’r unigolion mewn safle da i gymryd y cam cyntaf hwnnw i’r maes rheoli"

Mae Llinos Owen yn gweithio i Anheddau fel hwylusydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion. Cafodd wybod am gwrs Lefel 2 Esgyniad gan ei chyflogwr

Meddai Llinos:

“Roedd y cwrs yn brofiad gwych i mi. Roedd dysgu am y dulliau arwain gwahanol yn fuddiol iawn i mi gan fy mod yn hyfforddi nifer o dimau staff Anheddau ac mae pob tîm staff yn wahanol, yn cynnwys aelodau tîm newydd a rhai mwy profiadol.

“Gan fy mod wedi cwblhau’r hyfforddiant, cefais gynnig swydd lawn amser fel hwylusydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion. Ar ôl dechrau gweithio’n llawn amser, dechreuais fod yn brysur iawn yn fuan iawn, ond gallais ddefnyddio technegau rheoli amser i flaenoriaethu fy ngwaith yn effeithiol.

“Rwyf am fynd ymlaen i ennill cymaint o gymwysterau perthnasol â phosibl ac rwy’n gobeithio cyrraedd lefel rheolwr gweithrediadau cyn i mi fod yn 25 oed. Mae Anheddau eisoes wedi cytuno y gallaf astudio ar gyfer y Cymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’w ddechrau.”

Darllenodd Debbie Woolway, gweithiwr cymorth gydag Anheddau, am Cenedl Hyblyg yng nghylchlythyr Anheddau a phenderfynodd fynychu’r rhaglen Esgyniad gyda’r nod o ennill dyrchafiad yn y gwaith

Meddai Debbie:

"Gwnaeth yr hyfforddiant fy helpu i ganfod sgiliau cudd nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt, ac roeddwn yn gallu eu datblygu yn y gweithle. Mae’n bosibl nad yw nifer o bobl fel fi’n sylweddoli bod ganddyn nhw sgiliau arbennig nes iddyn nhw eu rhoi ar bapur."

 

Sut gwnaethon ni helpu

Meddai’r uwch-swyddog prosiect, Susie Ventris-Field:

“Fe wnaethom ni helpu Anheddau i sefydlu grŵp llywio amrywiaeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu strategaeth amrywiaeth. Trwy’r Rhaglen Esblygu, daethom o hyd i 20 o fenywod i gwblhau’r rhaglen Esgyniad er mwyn datblygu’u sgiliau rheoli."

Ychwanegodd Janetta:

“Mae’n hwb mawr i weld brwdfrydedd y cyfranogwyr a’u gweld yn mynd â’r brwdfrydedd hwn yn ôl i’r gweithle.

Mae’n bosibl na fydd pob aelod o’r staff yn symud ymlaen i swydd reoli, ond mae’r sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd o ganlyniad i’w hymrwymiad i brosiect Cenedl Hyblyg yn siŵr o gyfoethogi eu bywydau gwaith.”