X

Dathlu llwyddiant a chyflawniad - seremoni wobrwyo ar gyfer cyfranogwyr Cenedl Hyblyg

Amdanom ni ~ beth rydym
yn ei wneud

Croeso i Cenedl Hyblyg

Buddion

Prosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac sy’n gweithredu ar draws ardaloedd cydgyfeirio Cymru yw Cenedl Hyblyg. Ei nod yw helpu menywod cyflogedig i ddatblygu a chamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, a helpu busnesau i fabwysiadu arferion gwaith yn seiliedig ar y manteision masnachol a’r manteision i weithwyr cyflogedig sy’n gysylltiedig â darparu strategaethau a pholisïau effeithiol mewn perthynas ag amrywiaeth, gweithio hyblyg a gweithio o bell

Hyfforddiant

Trwy Cenedl Hyblyg, gall gweithwyr cyflogedig fanteisio ar y rhaglen Esgyniad i fenywod. Yma, maent yn dilyn cyrsiau hyfforddi a gynlluniwyd i ddatblygu eu sgiliau i hwyluso cynnydd yn y gweithle. Yn y tymor hir, bydd hyn yn rhoi’r hyder sydd ei angen ar fenywod sy’n cymryd rhan yn y prosiect i ddatgloi eu potensial a gwella eu rhagolygon yn y gwaith.

Darperir y rhaglen gynhwysfawr hon am ddim, ac mae’n cynnwys cymorth tiwtorial, cyngor un-i-un, mentora a hyd at 5 diwrnod llawn o hyfforddiant, gyda’r rheini sy’n cymryd rhan yn ennill cymhwyster achrededig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. (Cliciwch yma i ddysgu mwy am Esgyniad)

Helpu busnesau trwy ei raglen Esblygu

Mae prosiect Cenedl Hyblyg yn helpu busnesau trwy ei raglen Esblygu, sy’n dechrau gyda gweithdy i gyflwyno busnesau i’r manteision sydd i’w cael o wella eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am amrywiaeth yn y gweithle. Mae hefyd yn amlygu’r manteision masnachol o fabwysiadu arferion gwaith modern fel gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. 

Yn ogystal, gall busnesau gael hyd at 6 diwrnod o gymorth am ddim lle bydd eu cynghorydd Cenedl Hyblyg yn nodi ac yn cefnogi’r gwaith o roi polisïau ac arferion priodol mewn perthynas ag amrywiaeth, gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar waith yn llwyddiannus. Gall busnesau cymwys hefyd gael cymorth TGCh penodol i’w helpu i gyflwyno a defnyddio atebion gweithio hyblyg a gweithio o bell yn effeithiol. (Cliciwch yma i ddysgu mwy am Esblygu)

Hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, datblygu gyrfa

Trwy ddarparu cymorth i fenywod cyflogedig a chyflogwyr, mae Chwarae Teg, trwy Cenedl Hyblyg, wedi datblygu dull rhagweithiol cynhwysfawr o hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, datblygu gyrfa a chau’r bwlch cyflog. 

Hefyd, trwy fabwysiadu arferion gweithlu modern, gall y prosiect amlygu a hyrwyddo’r manteision masnachol y gall y gymuned fusnes eu profi pan fydd yn manteisio ar arferion gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mae Cenedl Hyblyg yn darparu ei wasanaethau i fenywod cyflogedig a chyflogwyr yn ardaloedd cydgyfeirio Cymru

Yn y pen draw, mae Cenedl Hyblyg yn cynnig sefyllfa y gall pawb elwa arni, lle gall menywod ennill sgiliau gwerthfawr i ddatblygu eu gyrfaoedd, lle gall busnesau fanteisio ar yr arferion gweithio a nodwyd, er enghraifft, i leihau absenoldeb a chynyddu teyrngarwch, a lle gall pawb weithio mewn amgylchedd teg, cynhyrchiol a phriodol.

Mae Cenedl Hyblyg yn darparu ei wasanaethau i fenywod cyflogedig a chyflogwyr yn ardaloedd cydgyfeirio Cymru. Mae’r prosiect yn cefnogi 2,790 o fenywod a 610 o fusnesau.

I weld rhagor o wybodaeth a manylion am Chwarae Teg, ewch i ChwaraeTeg.com, neu gwelwch eich swyddfa leol: Gogledd Cymru, De Ddwyrain Cymru, De Orllewin Cymru

Line

Canolfan Ansawdd CymruMae Canolfan Ansawdd Cymru yn darparu ystod o atebion wedi eu hanelu at gyflawni rhagoriaeth yn y gweithle heddiw - o’r sector breifat a chyhoeddus i addysg