Agor y Drws header image

Agor y Drws

...i Weithlu mwy Amrywiol: Gweithdy

Pwrpas y Gweithdy:

Archwilio syniadau o amgylch cydraddoldeb ac amrywioldeb yn y gweithlu, a darparu gwybodaeth am y buddion o gyflwyno gweithio hyblyg i’r gweithle.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r gweithdy wedi ei anelu at unrhyw un sydd â chyfrifoldeb ar gyfer rheoli pobl o fewn eu sefydliad.

Buddion y Gweithdy

Wrth fynychu’r gweithdy byddwch yn dysgu:

  • rheoli amrywioldeb a chydraddoldeb yn y gwaith
  • adnabod yr effaith y mae amrywioldeb yn ei gael ar eich sefydliad
  • diffinio a deall cydsyniad gweithio hyblyg fel mantais busnes
  • cael mynediad i adnoddau amrywioldeb
  • dysgu am anghenion deddfwriaethol

Trwy fynychu’r gweithdy bydd cynrychiolyddion yn derbyn Gwobr Datblygu'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Gwybodaeth Bellach:

Gallwch gysylltu â ni trwy e-bost neu ar y ffôn (gweler dolen ‘Eich Swyddfa Leol’ am fanylion) i archebu eich lle yn y gweithdy gan gynnwys y nifer o lefydd y dymunwch eu harchebu (mwyafrif o 2 i bob busnes).


Dyma rai o sylwadau Cyflogwyr sydd wedi
elwa’n ddiweddar o’r Cwrs Agor y Drws

Speech Bubble

"(Yr oedd) yn dda i gyfarfod menywod eraill yn gweithio mewn meysydd tebyg - Fe wnes i gysylltiadau da a phigo fyny arfer da"

Speech Bubble

"Yn gwrs gloywi da ac yn ddefnyddiol iawn wrth siarad gyda sefydliadau eraill i weld beth maent hwy yn ei wneud"

Speech Bubble

"Hyfforddwyr clên, agos atoch"

Speech Bubble

"Angen bod yn ymarferol o’r dechrau i’r diwedd, a oedd yn gwneud pobl i gymryd rhan a chael eu gwerthfawrogi"

Speech Bubble

"Yn gyfeirbost da i hyfforddiant yr ILM y mae’r prosiect yn ei gynnig"

Speech Bubble

"Bydd Chwarae Teg yn gyswllt pwysig o nawr ymlaen"

Speech Bubble

"Cyflwynwyr cyfeillgar ac anffurfiol, yn gyfle rhwydweithio da"

Speech Bubble

"Diolch am gynnal cwrs llawn gwybodaeth"

Speech Bubble

"Dysgais lawer o’r cwrs"

Speech Bubble

"Diwrnod llawn gwybodaeth a hwyl"